Pan ti'n trio colli'r Jeli Beli 'ma cyn 'steddfod drwy fynd ar dy feic a cyn ti droi, ti eistedd yn Wagamama, Bae Caerdydd yn bwyta 3 cwrs a coffi.
wps!
Wagamama......
Lyfli, Ffres, dim ffys....
Cwrs cynta' - Squid gyda olew corriander, chili, ( beth yw squid yn Gymraeg?) a edamame beans gyda halen garlleg
Prif gwrs - salmon wedi ei grilio gyda nwdls soba mewn oil cyri, mangetout, bok choi, red onion, chillies and beansprouts gyda saws teriyaki a bach o sesame seeds
Pwdin ( y pryd gora') 3 cacs bach - passion fruit cheesecake, white chocolate and ginger cheesecake a chocolate fudge cake
Coffi - Latte ( lleia' yn y byd) mwy fel espresso na latte, dyna'r rheswm dwi dal fyny am hanner nos yn edrych ar sut mae morgryg yn cael rhyw ac yn ysgrifennu'r blog 'ma.... BLOG CYNTA' FI!!! AHHHHH......
Mae bob dim yn cael eu goginio yn ffres, llawn blas ac yn teimlo yn andros o iach, er bod yr calories yn uwch na'r disgwyl,
Fy hoff beth ar y fwydlen yma yw'r 3 cacen bach. Cyfle da i gael blas ar y 3 cacen mae nhw'n gynnig. tro nesa' mi fyddai yn mynd am cacen caws gyda sinsyr a siocled gwyn.... ffabiwlys.
Manylion
Wagamama - Bae Caerdydd
http://www.wagamama.com.
Cyfeiriad: Mermaid Quay, Cardiff CF10 5BZ
Ffon:029 2048 5195
Oriau: 11:30–22:00
1 sgwot, 2 sgwot, 3 sgwot... gwely!
Nol i 2 ŵy a Avacado fory.....
Japanese. Nwdls . Soy.
♥ Eisiau bwyta yn Wagamama? link