top of page

Bara Menyn - Ffandangos - Llandaff


Breakfast Cardiff

Tra yn gwylio Countryfile heno, gyda chaneuon Cymraeg yn y cefndir ac Adam ( ffeifyryt) yn cerdded mynyddoedd y wyddfa ( yn edrych yn sŵpyr segsi) neshi feddwl, damia, dwi wedi anghofio sgwennu blog am fwyd Bara Menyn, felly dyma hi.....

Ar ôl clywed bod Bara Menyn yn symud i llandaff, roedd rhaid mynd yna am frecwast. Mae'r lleoliad lot gwell na'r hen leoliad yn yr emporium. Mae o wedi ei leoli yn y deli ffandangos ( ac am ddynion clên sydd yn rhedeg y lle - o'r gogledd - mae'r ddau frawd yr un sbit ) ac yn cynnig gwasanaeth sŵperb, yn hapus i gael sgwrs a thrafod y cynnyrch Cymreig sydd ar werth yn y deli. A mam bach mae 'na ddewis.... o jam i gin .... o sosij i salmon - ac i gyd yn dod o Gymru, ac os ydych chi'n awyddus i gefnogi ymgyrch NFU Cymru i gefnogi cynnyrch Cymreig a ffermwyr Cymru yna dyma'r lle i ddod.

Best Breakfast Cardiff

Ar ôl glyfeirio dros' cynnyrch Ffandangos ,roedd hi'n amser i flasu bwyd Bara Menyn.

Dyma'r ordor

- Wŷ wedi ei poacho ( berwi?) gyda Rarebit Cymreig gyda samlon a pesto ar fara sourdough

- Brecwast llawn

Dwi rioed wedi cael pesto yn rhan o'n eggs royale with a twist o'r blaen.... ond mama mia o'r north.... oedd o werth ei gael, roedd y bara yn crynshi, y salmon yn flasus yr rarebit yn berffaith ( fel rheol, dwi ddim rili yn ffân o ormod o fwsatrd yn y rarebit) ond roedd y cydbwysedd o'r cynhwysion yn gweithio'n dda iawn yn y mics yma o rarebit a'r PESTO.... wel, os fysa Mr Mwsh ddim yn eistedd gyferbyn, mi faswn ni wedi llyfu'r blât...

Cost - £7.00 - heb y salmon -£5.50 ( Ond ordrwch y salmon)

Cardiff Breakfast

So mi gafodd Mr Mwsh.... y brecwast llawn.... ( see above)

sosijis charcutier - os na ydych chi wedi trio rhain eto.... rhag eich cywilydd chi ( mae modd i chi brynnu nhw yn y deli - neu yn farchnad riverside bod dydd sul ) - fel neshi heddiw.....ma nhw yn sgrymi!

bîns homemêd -eto yn hynod o flasus a dim gormod o gic chili - sam byd gwaeth na gormod o jili ben bora'.

pwdin du a bacwn - Charcutier - eto yn sŵperb! gan mae bob dim mae nhw yn gynhyrchu yn ymeising a llawn blas.

myshrwm gyda rarebit, tatws di ffrio, ac ambell i beth arall.

Cost - £8.95

y cwestiwn ydi....

Neshi fwynhau? do!

Fyswn ni'n mynd yna eto... fory, os fyswn ni'n gallu

Oedd y gwasanaeth yn dda? gora' dwi di gael ers sbel.

Cost? Rhesymol iawn i feddwl faint yw cost cynnyrch cymreig

Dwi yn awgrymu i chi fwcio bwrdd, gan bod y deli yn eitha bach..... gyda mond 4 bwrdd tu mewn a cwpl o fyrddau tu allan.....

Bwyd cartref... cynnyrch lleol.... cwmni lleol. Mae angen cefnogi cwmniau bach fel hyn. felly, bwciwch!!!!!

Mae Bara Menyn ar Facebook, Twitter a Instagram...

Cardiff Blog

Blog Bwyd Caerdydd

Best Breakfast in Cardiff

bottom of page