Merch o Sir Fôn ydi Nia, Mae'n briod i Buster ac yn fam i Teleri a Rhiannon. Ei hoff lê yn y byd ydi Ynys Llanddwyn (ddim yn ganol yr haf ) mae hi fel ffair borth yna. Dros y flwyddyn diwethaf, mae hi wedi dechra gwneud yoga a garddio yn ogystal a ail gychwyn rentu y beudy bach biwtiffwl yma i'w rentu ar Airbnb sydd yn hynod o boblogaidd ac mae'r beudy bach yn llawn, drwy'r haf. felly, be am ddod i wybod mwy am y busnes bach yma.
Nia, mae'r beudy yn lysh, pam dechrau y busnes?
Gan bod ni ddim yn ffermio yma rhagor roedden ni’n awyddus i gael rhyw fath o ddefnydd o’r beudy a’r sgubor felly mi wnaethom ni benderfynnu troi’r beudy yn lety gwyliau bach.
Ac am feudy a hanner, dim sein o fuwch yn unman. Lle mae'r biwtar 'ma?
Yng Ngwalchmai, Ynys Mon. Rhyw 10 munud mewn car i Llangefni a chaergybi.
Beth yw dy hoff beth am rhedeg y busnes.
Y cyfle i weithio o adra (gan ein bod ni’n byw yn y ffermdy sy ynghlwm i’r beudy), cwrdd â wahanol bobl o wahanol lefydd a’r boddhad o weld bod ein gwesteion yn hapus ac yn mwynhau yma.
Chi di neud tipyn o waith ar y ty, chi nath adnewyddu'r beudy?
Buster - y gŵr - ddaru adeiladu ac adnewyddu’r holl beth yn defnyddio defnyddio a technegau traddodiadol.
Pryd nes di gychwyn y busnes?
Dani’n fusnes weddol newydd ac mond wedi bod yn croesawu gwesteion yma ers mis Medi 2020. Mae yna wedi bod rhyw fath o fferm yma ers 1306 ac roedd o’n rhan o stad esgob Bangor.
Sut mae modd i bobl aros yn y llety?
Drwy Airbnb - https://abnb.me/oShDCwSnNgb
WAAAAAAW! Dwi wir yn edrych 'mlaen i aros pan fyddai adra a'r ynys cyn hir a diolch am rannu dy sdori efo ni.
Mae'n lyfli gweld busnesau bach cymreig yn agor, datblygu ac yn rhoi gwen i bobl mewn cyfnod sydd wedi bod yn eitha anodd. Pobl lwc i ti a Buster ( er chi ddim angen dim lwc, mae'r bwcings yn llawn dop) mi fydd 'na ginsan yn yr ardd cyn hir i ddathlu, dwi'n siwr.
コメント